Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Neanderthal

Neanderthal
Amrediad amseryddol: Pleistocene Canol–Pleistocene Hwyr
Penglog Neanderthal yn La Chapelle-aux-Saints
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Teulu: Hominidae
Genws: Homo
Rhywogaeth: H. neanderthalensis
Enw deuenwol
Homo neanderthalensis
William King, 1864
Ardal lle gwelwyd Homo neanderthalensis.
Cyfystyron

Homo mousteriensisHomo sapiens neanderthalensis
Palaeoanthropus neanderthalensis[1]

Roedd y Neanderthal (neu'r Homo neanderthalensis neu Homo sapiens neanderthalensis) yn rhywogaeth o'r genws Homo neanderthalensis a oedd yn byw yn Ewrop a rhannau o orllewin Asia.[2] Ymddangosodd yr olion proto-Neanderthalaidd cyntaf yn Ewrop mor gynnar â 430,000 o flynyddoedd yn ôl. Ceir tystiolaeth eu bônt yn defnyddio tân 300,000 cyn y presennol (CP), fel ag yr oedd y rhywogaethau eraill a oedd yn byw yr adeg honno: homo erectus a chyndadau Homo sapiens.[3] Erbyn 130,000 o flynyddoedd yn ôl roedd nodweddion Neanderthalaidd cyflawn wedi ymddangos. Daeth y rhywogaeth i ben rhwng 41,000 a 39,000 o flynyddoedd yn ôl.

Maent wedi gadael llawer ar eu hôl gan gynnwys esgyrn ac offer llaw a'u DNA.

Mae ymchwil genetig a wnaethpwyd yn 2010 yn awgrymu fod bodau dynol a'r Neanderthal yn rhyng-bridio rhwng 80,000 a 50,000 o flynyddoedd yn ôl yn y Dwyrain Canol. O ganlyniad mae gan fodau dynol Ewrasiaidd rhwng 1% a 4% mwy o DNA Neanderthalaidd nag Affricanwyr Is-Sahara.[4] Roedd y Neanderthal yn perthyn yn agos i fodau dynol modern, gyda gwahaniaeth yn eu DNA o ddim ond 0.12%. Ond nid oeddent yn cydweithio gyda'i gilydd cymaint â Homo Erectus oherwydd eu diffyg datblygiad iaith, nid oeddent mor gymdeithasol, ac nid oeddent mor flaenllaw eu technoleg. Y ffactorau hyn, mae'n debyg, sy'n egluro pam y bu i'r Neanderthal ddifodi ac i Homo Erectus barhau.

Siart 'Stringer' o esblygiad sawl rhywogaeth o'r genws Homo dros ddwy filiwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Mae'r cysyniad "Allan o Affrica" i'w weld ar frig y siart.

Yn y 2010au, mewn ogof ym Mynyddoedd Altai, cafwyd hyd i DNA o fewn asgwrn un o'i thrigolion, merch 13 oed, a drigai yno tua 50,000 o flynyddoedd CP. Hyd at 40,000 CP roedd y Neanderthal i'w weld drwy orllewin Ewrop a'r Denisovan drwy ddwyrain Ewrop, ond mewn rhai llefydd roeddent yn cyd-fyw. Profodd y DNA fod y tad yn Denisovan a'r fam yn Neanderthal.[5] Oherwydd y dystiolaeth hon, mae'r hyn y gredwyd cyn 2010 - y Theori Amnewid (Replacement Theory) - bellach yn farw.

Llun gan arlunydd cyfrifiadurol.
  1. Bibliography of Fossil Vertebrates 1954-1958 - C.L. Camp, H.J. Allison, and R.H. Nichols - Google Books. Books.google.ca. Adalwyd 2014-05-24.
  2. Hublin, J. J. (2009). "The origin of Neandertals". Proceedings of the National Academy of Sciences 106 (38): 16022–7. Bibcode 2009PNAS..10616022H. doi:10.1073/pnas.0904119106. JSTOR 40485013. PMC 2752594. PMID 19805257. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2752594.
  3. Sapiens: A Brief History of Humankind gan Yuval Noah Harari; Penguin (2011); t. 13.
  4. http://news.bbc.co.uk/2/hi/science/nature/8660940.stm A Draft Sequence of the Neandertal Genome
  5. Gwefan y BBC; adalwyd 23 Awst 2018.

Previous Page Next Page






Neanderdaller AF Neandertaler ALS نياندرتال Arabic نياندرطال ARY Homo neanderthalensis AST Neandertal insanı AZ نئاندرتال AZB Neandertaler BAR Neandertal BCL Неандэрталец BE

Responsive image

Responsive image