Neognathae Amrediad amseryddol: Cretasaidd hwyr – Holosen [1] | |
---|---|
Ceiliog coedwig coch benywaidd (Gallus gallus) | |
Aderyn to (Passer domesticus) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Inffradosbarth: | |
Isgrwpiau | |
Grŵp o adar yw'r Neognathiaid (Neognathae) o fewn y Dosbarth Aves. Mae'r Neognathae yn cynnwys bron y cyfan o'r adar sy'n fyw heddiw; yr eithriad yw'r chwaer dacson, y Palaeognathae),sy'n cynnwys y Tinamŵaid a'r adarn nad ydynt yn hedfan a elwir yn ratites.
Ceir bron i 10,000 o rywogaethau o neognathiaid. Ers cyfnod y Cretasaidd hwyr, maen nhw wedi addasu i'w hamrywiol ffurfiau - amrywiaeth eang iawn o liw, maint ac ymddygiad. Ceir ffosiliau ohonynt o'r Cretasaidd hwyr.
Mae'r grŵp yma, y Neognathiaid yn cynnwys yr urdd Passeriformes (adar sy'n clwydo), sef y cytras (clade) mwyaf o unrhyw anifail gydag asgwrn cefn (neu 'fertibratau'), gyda 60% o'r holl adar sy'n fyw heddiw o fewn y grŵp.
Mae gan y Neognathiaid fetacarpalau sydd wedi asio i'w gilydd, mae'r trydydd 'bys' yn hirach na'r cyffredin ac mae ganddynt 13 fertebra yn llai. Maen nhw'n whanol i'r Palaeognathae oherwydd nodweddion fel esgyrn eu gên. dyma darddiad y gair "Neognathae", sef "esgyrn gên newydd".