Cerdd arwrol Almaeneg o'r Canol Oesoedd yw'r Nibelungenlied; fe'i hystyrir fel arwrgerdd genedlaethol yr Almaen.
Dyddia'r gerdd o'r 13g. Dyddia'r teitl o'r 18g, o'r geiriau olaf yn un o'r llawysgrifau, C, hie hât daz mære ein ende: daz ist der Nibelunge liet ("dyma ddiwedd yr hanes: dyna Gân y Nibelung").
Sail hanesyddol y stori yw'r frwydr ger Worms yn 436, pan orchfygwyd byddin Bwrgwyn gan fyddin yr Ymerodraeth Rufeinig dan y magister militum Aetius, gyda chymorth yr Hyniaid.
Arwr y gerdd yw Siegfried, sydd ar ddechrau'r hanes yn dod i Worms i lys Günther. Gyda Günther mae'n ymladd a'r Sacsoniaid ac yna'n teithio i Wlad yr Ia i ennill Brünhilde fel gwraig i Günther. Yn ôl yn Worms, mae Siegfried yn priodi Kriemhilt, chwaer Günther, ond cyn hir mae ymryson rhwng y ddwy pwy yw prif wraig y llys.
Roedd Siegfried wedi cymryd modrwy oddi wrth Brünhilde wrth iddi gysgu, a phan ddaw Siegfried dan amheuaeth o'i dwyn, mae'n tyngu llw ar waywffon Hagen, un o wŷr Günther. Penderfyna Hagen ladd Siegfried i amddiffyn anrhydedd y brenin. Dim ond ar un man ar ei gorff y gellir niweidio Siegfried, ond mae Hagen trwy ystryw yn perswadio Kriemhilt i nodi'r fan a chroes, yna tra allan yn hela, mae Hagen yn trywanu Siegfried â gwaywffon yn y fan honno. Mae Kriemhilt yn gofyn cymorth Atzel (Attila), brenin yr Hyniaid.
Rai blynyddoedd wedyn, gwahoddir y Bwrgwyniaid i wledd yn llys Atzel. Yno, mae gwarchodlu Kriemhilt yn ceisio lladd Hagen, ond mae Günther yn ei amddiffyn. Yn y diwedd, lleddir pawb o'r Bwrgwyniaid heblaw Günther a Hagen. Gyrr Kriemhilt ei dilynwr Dietrich i geisio eu perswadio i ildio. Gofynna Kriemhilt i Hagen am y Nibelungenhort, trysor y Nibelung, a gafodd hi gan Siegfried, ond mae Hagen wedi ei daflu i afon Rhein. Wedi i Kriemhilt ladd ei brawd Günther a Hagen, lleddir hi ei hun gan Hildebrand.
Defnyddiodd y cyfansoddwr Almaenig Richard Wagner y stori fel sail i'w gylch enwog o operâu, Der Ring des Nibelungen ("Modrwy y Nibelung").