Nicole Kidman | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Nicole Mary Kidman ![]() 20 Mehefin 1967 ![]() Honolulu ![]() |
Dinasyddiaeth | Awstralia, Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr, cynhyrchydd ffilm, actor teledu, model, actor ffilm, actor llais, diplomydd, cynhyrchydd ![]() |
Swydd | UNIFEM goodwill ambassador ![]() |
Cyflogwr | |
Taldra | 1.8 metr ![]() |
Tad | Antony Kidman ![]() |
Mam | Janelle Kidman ![]() |
Priod | Tom Cruise, Keith Urban ![]() |
Plant | Sunday Urban, Faith Urban, Connor Cruise ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Dinesydd y Byd, Sergio Vieira de Mello, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - mewn Drama Gerdd neu Gomedi ar Ffilm, Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - mewn Drama Gerdd neu Gomedi ar Ffilm, Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - Drama ar Ffilm, Gwobr y Golden Globe am Actores Orau – Cyfres Fer neu Ffilm Deledu, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr Primetime Emmy ar gyfer Prif Actores Eithriadol mewn Cyfres Bitw neu Ffilm, Gwobr y Screen Actors Guild am Berfformiad Arbennig i Actores mewn Cyfres Fer neu Ffilm, Cydymaith Urdd Awstralia, Gwobr Primetime Emmy ar gyfer Prif Actores Eithriadol mewn Cyfres Bitw neu Ffilm, Trysor byw genedlaethol Awstraliaid, Gwobr Crystal, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - Drama ar Ffilm, Gwobr Theatr yr Evening Standard am yr Actores Orau, Gwobr Time 100, Jupiter Awards ![]() |
Gwefan | https://nicolekidmanofficial.com/ ![]() |
Actores o Awstralia yw Nicole Mary Kidman AC (ganed 20 Mehefin 1967).[1] Yn 2006, daeth Kidman yn un o'r actorion sy'n ennill y mwyaf yn y diwydiant ffilm.[2] Yn yr un flwyddyn, Kidman gwnaed Companion of the Order of Australia, anrhydedd fwyaf Awstralia i ddinasyddion. Yn swyddogol, hi yw un o actorion mwyaf llwyddiannus Awstralia.[3]
Ar ôl sawl ymddangosiad mewn ffilm a theledu, daeth Kidman i amlygrwydd yn y ffilm ddrama gyffrous Dead Calm (1989). Mae ei pherfformiadau mewn ffilmiu megis To Die For (1995), Moulin Rouge! (2001), a The Hours (2002), wedi ennill llawer o feirniadaeth gymeradwyol. Derbyniodd Kidman seren ar y Walk of Fame yn Hollywood, Califfornia, yn 2003. Mae Kidman hefyd yn Lysgennad Ewyllys Da UNIFEM a UNICEF, ac yn gantores. Mae hefyd yn adnabyddus oherwydd ei chyn briodas â Tom Cruise a'i phiodas presennol i'r cerddor Keith Urban. Oherwydd iddi gael ei geni i rieni Awstraliaidd yn Honolulu, Hawaii, mae ganddi ddinasyddiaeth ddeuol rhwng Awstraia a'r Unol Daleithiau.