Owain ab Urien | |
---|---|
Ganwyd | 6 g |
Bu farw | c. 595 |
Dinasyddiaeth | Rheged, Yr Hen Ogledd |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines, brenin |
Tad | Urien Rheged |
Priod | Denyw |
Plant | Cyndeyrn, Elffin |
Un o arweinwyr Brythoniaid yr Hen Ogledd a ddaeth yn ffigwr pwysig yn rhamantau'r Oesoedd Canol oedd Owain ab Urien neu Owain fab Urien (yn fyw yn y 6g). Roedd yn fab i Urien Rheged, brenin teyrnas Rheged. Fel Owein neu Yvain, ymledodd ei hanes chwedlonol ar draws Ewrop fel un o farchogion y brenin Arthur.