Pab Grigor I | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 540, 540 ![]() Rhufain ![]() |
Bu farw | 12 Mawrth 604 ![]() Rhufain ![]() |
Man preswyl | Rhufain ![]() |
Galwedigaeth | diplomydd, offeiriad Catholig, llenor ![]() |
Swydd | pab, papal apocrisiarius to Constantinople ![]() |
Adnabyddus am | Ymgomiau, Collectio Avellana, Pastoral Care, Moralia in Job, Ymgomiau ![]() |
Dydd gŵyl | 12 Mawrth, 25 Mawrth, 3 Medi ![]() |
Tad | Gordianus ![]() |
Mam | Santes Silvia ![]() |
Llinach | Anicia gens ![]() |
Pab Rhufain o 590 hyd ei farwolaeth oedd Grigor I, a elwir hefyd yn Grigor Fawr neu Gregor(i) Fawr (c. 540 – 12 Mawrth 604). Mae'r eglwys yn ei gyfrif yn sant a Thad Eglwysig; ei wylmabsant yw 12 Mawrth. Cafodd ei eni yn Rhufain.
Yn ôl traddodiad, gwelodd gaethweision ifainc o Eingl-Sacsoniaid mewn marchnad caethweision yn Rhufain a phenderfynodd anfon cenhadwr i Brydain i droi'r Eingl-Sacsoniaid yn Gristnogion. Y gŵr a ddewisodd oedd Awstin, a fyddai'n archesgob cyntaf Caergaint yn ddiweddarach.
Roedd Grigor yn ddyn caredig iawn a weithiai i wella cyflwr y tlodion. Yn ogystal gwnaeth lawer i ddiwygio trefn yr eglwys. Roedd hefyd yn awdur yn yr iaith Ladin a ysgrifennodd homilïau ar Eseciel a'r Efengylau, llyfr ar reolau'r eglwys (Cura Pastoralis) a'r gweithiau ar gyfer gwasnanaethau eglwysig y Sacramentarium a'r Antiphonarium.
Yr enw cyffredin ar y Pab Grigor yng Nghymru'r Oesoedd Canol oedd Geirioel. Dyma gyfeiriad ato mewn awdl gan Iolo Goch i Dafydd ap Bleddyn, Esgob Llanelwy: