![]() | |
Enghraifft o: | math o organ, dosbarth o endidau anatomegol ![]() |
---|---|
Math | organ llabedog, endid anatomegol arbennig, glandular organ ![]() |
![]() |
Chwarren sy'n perthyn i'r system endocrin a system dreulio fertebratau ydy'r pancreas (neu'r cefndedyn). Mae'n cynhyrchu sawl hormon pwysig iawn gan gynnwys inswlin, glwcagon a somatostatin yn ogystal â bod yn chwarren ecsocrin sy'n secretu hylif pancreatig. Mae'r sudd yma'n cynnwys ensymau treulio sy'n llifo i lawr i'r coluddyn bach. Gall yr ensymau hyn ddadelfennu a threulio carbohydradau, proteinau a saim ymhellach yn y treulfwyd.