Math | parc cenedlaethol yr Unol Daleithiau, parc cenedlaethol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Califfornia |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 5,270.411 mi² |
Cyfesurynnau | 36.49°N 117.09°W |
Rheolir gan | National Park Service |
Statws treftadaeth | International Dark Sky Park |
Manylion | |
Ardal warchodedig i'r dwyrain o gadwyn y Sierra Nevada yw Parc Cenedlaethol Dyffryn Marwolaeth. Fe'i lleolir yn Swydd Inyo, yn ne-ddwyrain Califfornia, UDA, gyda rhan fechan ohono'n ymestyn i mewn i Nevada.
Mae'n cynnwys bron y cyfan o Ddyffryn Marwolaeth yn ei ffiniau. Dyma'r ardal boethaf a sychaf yng Ngogledd America; anialwch di-drugaredd lle mae'r tymheredd yn codi dros 39 gradd C yn y cysgod yn rheolaidd yn ystod yr haf.
Er gwaethaf yr hinsawdd eithafol mae'r parc yn gartref i nifer o rywogaethau diddorol, yn blanhigion ac yn anifeiliaid a chreaduriaid eraill. Mae'r ardal yn arbennig o ddeniadol yn y gaeaf ac yn denu nifer o dwristiaid yr adeg honno.
Cafodd ei gyhoeddi'n Gofeb Genedlaethol yn 1933.