Mewn geometreg sy'n ymwneud â'r planau Ewclidaidd, mae'r petryal yn bedrochr sydd â phedair onglau sgwâr. Gellir ei ddiffinio hefyd fel "pedrochr hafalonglog" gan fod pob cornel (neu 'fertig') o'r un maint, fel sgwâr: 360°/4 = 90°. Gellir ei ddiffinio hefyd fel paralelogram sy'n cynnwys onglau sgwâr. Yr hen enw arno oedd hirsgwar, ond mae creu sgwâr 'hir' yn amhosib! Fodd bynnag, mae'r gair "petryal" yn hen air Cymraeg. Yn Llyfr Du Caerfyrddin (13g), er enghraifft, sonir am fedd Owain ab Urien im pedryal bid. Cofnodir hefyd yn y Mabinogi (13g) am Branwen ferch Llŷr yn dychwelyd o'r Iwerddon, a gwneuthur bedd petrual iddi ar lan Llyn Alaw.[1]
Mewn nodiant mathemategol, nodir petryal gyda fertigau (corneli) ABCD fel ABCD,
Mae petryal croes (crossed rectangle) yn bedrochr croes sy'n hunan-groestori, sy'n cynnwys dau bâr cyferbyn o ochrau pedrochr a dau croeslin.[2]