Teulu'r Cnocellod Picidae Amrediad amseryddol: Oligosen hwyr - Presennol | |
---|---|
Cnocell Hispaniola | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Piciformes |
Teulu: | Picidae |
Is-deuluoedd | |
Teulu o adar ydy'r Cnocellod (enw gwyddonol neu Ladin: Picidae).[1] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd 'Piciformes.[2][3]
Mae aelodau'r teulu i'w canfod ledled y byd, ar wahân i Awstralia, Gini Newydd, Seland Newydd a Madagasgar ac wrth gwrs, y pegynnau oer. Mewn fforestydd y mae'r rhan fwyaf o'r teulu'n byw, gydag ambell rywogaeth yn byw mewn tiroedd agored e.e. anialwch neu fryniau moel.
Mae'r Picidae yn un o wyth teulu yn urdd y Piciformes.[4] Ceir tua 200 o rywogaethau i gyd yn y teulu hwn a thua 30 genws. Mae nifer ohonynt dan fygythiad neu'n brin iawn. Ni welwyd Cnocell fwyaf America ers tua 1986 a chredir ei fod bellach wedi darfod; felly hefyd y Gnocell ymerodrol.