Planhigion blodeuol | |
---|---|
Blodyn magnolia | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Magnoliophyta Cronquist, Takht. & W.Zimm., 1966 |
Dosbarthiadau (system Cronquist) | |
Magnoliopsida (deugotyledonau) | |
Prif grwpiau (system APG III) | |
Amborellales | |
Cyfystyron | |
Angiospermae |
Grŵp mawr o blanhigion hadog yw'r planhigion blodeuol (hefyd cibhadogion neu angiosbermau), sy'n dwyn blodau a ffrwythau. Maent yn cynnwys tua 254,000 o rywogaethau ledled y byd, mwy nag unrhyw grŵp arall o blanhigion tir.[1] Maent yn dwyn blodau sy'n cael eu peillio gan bryfed (pryfbeilliedig) neu'r gwynt (gwyntbeilliedig) gan amlaf. Mae hadau planhigion blodeuol yn eu ffrwythau, a'u hofwlau mewn carpelau. Ymddangosodd y planhigion blodeuol cyntaf tua 140 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod Cretasaidd.[2]
Rhennir y planhigion blodeuol yn ddau grŵp yn draddodiadol: y deugotyledonau a'r monocotyledonau. Mae astudiaethau diweddar yn awgrymu hollti'r deugotyledonau yn sawl grŵp megis yr ewdicotau a'r magnoliidau.[2]