Math | cymuned, dinas |
---|---|
Poblogaeth | 89,472 |
Pennaeth llywodraeth | Alain Claeys, Léonore Moncond'huy |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | arrondissement Poitiers, canton of Poitiers-6, canton of Poitiers-7, Vienne |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 42.11 km² |
Uwch y môr | 75 metr, 65 metr, 144 metr |
Gerllaw | Clain, Boivre |
Yn ffinio gyda | Biard, Bignoux, Buxerolles, Croutelle, Fontaine-le-Comte, Ligugé, Mignaloux-Beauvoir, Migné-Auxances, Montamisé, Saint-Benoît, Sèvres-Anxaumont, Vouneuil-sous-Biard |
Cyfesurynnau | 46.5811°N 0.3353°E |
Cod post | 86000 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Poitiers |
Pennaeth y Llywodraeth | Alain Claeys, Léonore Moncond'huy |
Dinas ar Afon Clain yng ngorllewin canolbarth Ffrainc yw Poitiers. Hi yw prif ddinas département Vienne a région Poitou-Charentes .
Saif Poitiers ar y Seuil du Poitou, tir isel rhwng Massif Armorica a'r Massif Central. Sefydlwyd y dref gan lwyth y Pictones dan yr enw Limonum. Ar ôl y cyfnod Rhufeinig, daeth yn eiddo'r Fisigothiaid, yna'r Ffranciaid.
Ymladdwyd Brwydr Tours, a elwir hefyd yn Frwydr Poitiers, gerllaw Poitiers ar 10 Hydref, 732. Gorchfygodd Siarl Martel fyddin Islamaidd. Yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, ymladdwyd Brwydr Poitiers yma yn 1356. Sefydlwyd Prifysgol Poitiers yn 1431.
Roedd yn boblogaeth yn 2006 yn 90,000.