![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.015°N 3.048°W ![]() |
Cod OS | SJ294467 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Ken Skates (Llafur) |
AS/au y DU | Steve Witherden (Llafur) |
![]() | |
Pentref yng nghymuned Rhosllannerchrugog, bwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Ponciau.[1][2]
Tyfodd y pentref o gwmpas y diwydiant glo, gyda rhywfaint o gynhyrchu haearn yma hefyd. Ceir yma ysgol gynradd a swyddfa'r post, ynghyd â nifer o gapeli. Saif rhan o Glawdd Offa gerllaw, ac mae Afon Clywedog yn ffurfio rhan o ffin y ward. Yn 2001 roedd 37% o'r boblogaeth yn medru Cymraeg.
Mae Parc y Ponciau yn cynnwys trac BMX a chyfleusterau ar gyfer pêl-droed, bowlio a thennis. Ceir Cerrig yr Orsedd yma o Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhosllannerchrugog 1961. Ar ddechrau 2007 cyhoeddwyd fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r grŵp cymunedol Cyfeillion Parc y Ponciau yn cael nawdd o £504,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer adfer y parc.