Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 14,547 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llydaw |
Arwynebedd | 24.85 km² |
Uwch y môr | 60 metr, 48 metr, 192 metr |
Yn ffinio gyda | Noal-Pondi, Sant-Turiav, Ar Sorn, Malgeneg, Klegereg, Neulieg |
Cyfesurynnau | 48.0686°N 2.9628°W |
Cod post | 56300 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Pondi |
Tref a Chymuned yn Llydaw yw Pondi (Ffrangeg: Pontivy, Gallo: Pondivi). Saif yn département Mor-Bihan, lle mae dau prif gamlas canolbarth Llydaw yn cyfarfod, Camlas Blavet a Camlas Nantes a Brest.
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg. Mae Pondi yn un o drefi Bro-Wened, un o naw fro hanesyddol Llydaw.
Sefydlwyd y dref gan y mynach Llydewig Ivy yn y 7g, a chafodd yr enw Pond Ivy (pond yw "pont" yn Llydaweg). Adeiladwyd castell yma gan Jean II de Rohan rhwng 1479 a 1485, ar safle castell blaenorol. Newidiwyd yr enw i Napoléonville am gyfnod yn ystod teyrnasiad Napoleon.