Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Powys Wenwynwyn

Powys Wenwynwyn
Math o gyfrwnggwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
Daeth i ben1283 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1160 Edit this on Wikidata
Map
RhagflaenyddTeyrnas Powys Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Arfbais Powys Wenwynwyn a Theyrnas Powys.

Roedd Powys Wenwynwyn yn dywysogaeth Gymreig a fodolai yn ei therfynau o ail hanner y 12g hyd chwarter cyntaf y 13g. Er byrred ei pharhad, chwaraeai ran bwysig yng ngwleidyddiaeth Cymru'r Oesoedd Canol.

Yn 1160, ar farwolaeth Madog ap Maredudd, rhannwyd hen deyrnas Powys yn ddwy ran. Etifeddodd un o feibion Madog, Owain Cyfeiliog ran ddeheuol y deyrnas. Cantref Cyfeiliog oedd canolfan ei rym. Ar ei farwolaeth ef pasiodd y dywysogaeth i ddwylo ei fab Gwenwynwyn ab Owain (11951216), a daethpwyd i adnabod y deyrnas fel Powys Wenwynwyn mewn cyferbyniaeth â'r rhan ogleddol, Powys Fadog.

Mathrafal, hen lys brenhinoedd Powys yng nghantref Caereinion, oedd canolfan y dywysogaeth, ond yn ddiweddarach symudwyd y llys i'r Trallwng pan ochrodd Gwenwynwyn â brenin Lloegr. Dilynwyd Gwenwynwyn gan ei fab Gruffudd ap Gwenwynwyn, ond bregus fu ei afael ac am y rhan fwyaf o'r amser bu Powys Wenwynwyn ym meddiant tywysogion Gwynedd. Gyda chwymp Gwynedd yn 1283 nid adferwyd Powys Wenwynwyn, a chael ei hymrannu'n fân arglwyddiaethau neu ddod i feddiant Coron Lloegr fu ei thynged.

Baner Powys Wenwynwyn

Previous Page Next Page






Powys Wenwynwyn AST Powys Wenwynwyn BR Powys Wenwynwyn Czech Powys Wenwynwyn German Powys Wenwynwyn English Powys Wenwynwyn Spanish Powys Wenwynwyn EU Powys Wenwynwyn French Powys Wenwynwyn GA Поуис Венвинвин Russian

Responsive image

Responsive image