Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Prifysgol Bangor

Prifysgol Bangor
Prif adeiladau Prifysgol Bangor
Arwyddair Gorau Dawn Deall
Sefydlwyd 1884
Math Cyhoeddus
Llywydd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, AC
Is-ganghellor Yr Athro John G Hughes
Myfyrwyr 14,020[1]
Israddedigion 8,500[1]
Ôlraddedigion 2,030[1]
Myfyrwyr eraill 3,490 Addysg bellach[1]
Lleoliad Bangor, Baner Cymru Cymru
Cyn-enwau Prifysgol Cymru, Bangor
Coleg Prifysgol Gogledd Cymru
Lliwiau coch a melyn
Tadogaethau Prifysgol Cymru
Gwefan http://www.bangor.ac.uk

Prifysgol ym Mangor, Gwynedd, gogledd Cymru yw Prifysgol Bangor (cyn-enwau: Prifysgol Cymru, Bangor, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru). Mae'n aelod-sefydliad o Brifysgol Cymru. Derbyniodd siarter Frenhinol yn 1885 ac roedd yn un o'r cyrff hynny a sefydlodd y Brifysgol ffederal. Cawsai ei hadnabod am y rhan fwyaf o'i hoes fel "Brifysgol Cymru, Bangor". Ers Medi 2007 fe'i gelwir yn Brifysgol Bangor, gan iddi wahanu oddi wrth Brifysgol ffederal Cymru.

Pan archwiliwyd asesiadau ymchwil y coleg yn 2008, gwelwyd fod bron i 50% o'r holl waith ymchwil o fewn ei muriau yn flaenllaw - a hynny yn nhermau bydeang. Caiff ei gydnabod fel y 251fed prifysgol mwyaf blaenllaw yn y byd.[2] Yn ôl Canllaw'r Sunday Times i Brifysgolion Prydain, 2012,[3] caiff ei gyfri fel y brifysgol orau yng Nghymru o ran yr addysgu ac o fewn y 15eg gorau ym Mhrydain yn y categori hwn.

Cyhoeddir Esgor, cyfnodolyn cyntaf y Gymraeg ar fydwreigiaeth, gan y brifysgol.

Sefydlwyd yn 1884 gyda 58 o fyfyrwyr. Nawr, yn yr unfed ganrif ar hugain mae dros 10,000 o fyfyrwyr yn mynychu'r brifysgol.[4]

Yn 2023, enwyd y brifysgol yn Prifysgol y flwyddyn yng Nghymru gan y Daily Mail.[5]

Myfyrwyr newydd yn cyrraedd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor. Ffotograff gan Geoff Charles (1958).
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3  Table 0a - All students by institution, mode of study, level of study, gender and domicile 2006/07. Higher Education Statistics Agency. Adalwyd ar 19 Ebrill 2008.
  2. "World University Rankings 2011-2012". Times Higher Education. Cyrchwyd 2013-05-18.
  3. "Bangor University Profile". Bangor.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-17. Cyrchwyd 2013-05-18.
  4. Roberts, David (2009). Bangor University, 1884-2009. Chippenham, Wiltshire: CPI Antony Rowe. ISBN 978-0-7083-2226-0.
  5. Price, Emily (2023-09-12). "Bangor named as Welsh University of the Year". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-13.

Previous Page Next Page