Micro-organeb ungell (neu gytrefi ohoni) yw'r procaryot, sydd heb gnewyllyn nac organynnau. Fe'u disgrifiwyd fel grŵp yn gyntaf gan Édouard Chatton (1883 - 1947) mewn papur yn 1925 Pansporella perplex: Reflections on the Biology and Phylogeny of the Protozoa[1]. Bathodd y gair procaryot (ac ewcaryot) mewn papur yn 1938. Maent yn cynnwys dau o'r tri pharth sy'n cynnwys holl organebau bywyd. Y trydydd parth yw'r Ewcaryota (celloedd ac iddynt gnewyllyn). Daw'r termau o'r Hen Roeg karyón (καρυόν) ‘cnewyllyn cneuen’. Ers y 1970au, yn bennaf trwy waith Carl Woese, sylweddolwyd fod modd rhanni'r Procaryota yn ddau barth - y Bacteria a'r Archaea. Yn nhermau niferoedd a swmp, procaryotau yw'r rhan fwyaf o fywyd y ddaear. Maent yn hollbwysig i iechyd ac afiechyd dynoliaeth.