Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.047°N 3.961°W |
Cod OS | SN661402 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
Pentref yng nghymuned Cynwyl Gaeo, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Pumsaint[1][2] neu Pumpsaint. Lleolir hanner ffordd rhwng Llanwrda a Llanbedr Pont Steffan ar ffordd yr A482 yn nyffryn Afon Cothi. Mae'n ffurfio rhan o ystad helaeth Dolaucothi ac mae'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae plant y pentref yn mynychu Ysgol Gynradd Caio gerllaw.[3]