Math | province of Pakistan |
---|---|
Prifddinas | Lahore |
Poblogaeth | 101,391,000, 127,688,922 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+05:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Punjab |
Sir | Pacistan |
Gwlad | Pacistan |
Arwynebedd | 205,344 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Khyber Pakhtunkhwa, Sindh, Balochistan, Islamabad Capital Territory, India, Punjab |
Cyfesurynnau | 31.33°N 74.21°E |
PK-PB | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Provincial Cabinet of Punjab |
Corff deddfwriaethol | Provincial Assembly of Punjab Province |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Governor of Punjab, Pakistan |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Punjab |
Un o daleithiau Pacistan yw'r Punjab neu Panjab (Urdu: پنجاب ; Punjabi: پنجاب). Hon yw rhanbarth fwyaf poblog a ffyniannus y wlad o gryn dipyn ac mae'n gartref i Punjabiaid a sawl grŵp ethnig arall. Yr ardaloedd cyfagos yw Sindh (Sind) i'r de, Balochistan a Khyber Pakhtunkhwa i'r gorllewin, Azad Kashmir (y rhan o Kashmir dan reolaeth Pacistan), Jammu a Kashmir yn India, ac Islamabad i'r gogledd, a'r Punjab Indiaidd a Rajasthan i'r dwyrain, yn India. Y prif ieithoedd yw Punjabi, Urdu a Saraiki. Lahore yw'r brifddinas daleithiol. Daw'r enw Punjab o'r geiriau Perseg Pañj (پنج), sy'n golygu "pump", ac Āb (آب) sy'n golygu "dŵr" (cf. afon yn Gymraeg). Ystyr "Punjab" felly yw "(y) pum dŵr (neu 'afon')" - felly "Gwlad y Pum Afon", sy'n cyfeirio at yr afonydd Indus, Ravi, Sutlej, Chenab a'r Jhelum; mae'r pedair olaf yn llednentydd Afon Indus.