![]() | |
Enghraifft o: | iaith fyw, iaith naturiol, iaith ![]() |
---|---|
Math | Punjabi dialects and languages ![]() |
Lleoliad | Punjab, Kashmir ![]() |
Enw brodorol | پنجابی ![]() |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | pa ![]() |
cod ISO 639-2 | pan ![]() |
cod ISO 639-3 | pan ![]() |
Gwladwriaeth | Pacistan, India, y Deyrnas Unedig, Cenia, Maleisia, De Affrica, Bangladesh, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Canada, Gwlad Tai, Ffiji, Affganistan, Sawdi Arabia, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Unol Daleithiau America, Awstralia, Singapôr, Unknown, Sbaen ![]() |
Rhanbarth | Azad Kashmir, Jammu a Kashmir, Unknown, Gorllewin Bengal, Punjab, Haryana, Delhi, Punjab, Islamabad Capital Territory ![]() |
System ysgrifennu | Shahmukhi, Gurmukhi, Urdu orthography ![]() |
Corff rheoleiddio | Department of Languages, Punjab, Punjab Institute of Language, Art, and Culture ![]() |
![]() |
Iaith Indo-Ewropeaidd a siaradir yn rhanbarth ddaearyddol Punjab ar isgyfandir India yw Pwnjabeg.[2] Mae'n perthyn i is-deulu'r ieithoedd Indo-Iraneg ac yn agos iawn i Wrdw.
Cadarnle'r Bwnjabeg yw talaith y Punjab yn India a thalaith y Punjab ym Mhacistan. Ceir yn ogystal nifer o siaradwyr Pwnjabeg yn nhaleithiau Rajasthan ac Uttar Pradesh. Mae'n iaith swyddogol talaith Punjab India.
Yn nhermau daearyddiaeth ieithyddol, mae'r iaith yn ffinio â'r ieithoedd Lahnda i'r gogledd (Jammu a Kashmir), Rajastani i'r de, Hindi i'r dwyrain a Pahari Orllewinol a Dardeg i'r gogledd-ddwyrain.
Yn niwylliannol mae gan yr iaith Bwnjabeg gysylltiad cryf â chrefydd Siciaeth, a sefydlwyd ar ddiwedd y 15g. Dyfeisiwyd yr wyddor Gurmukhi, seiliedig ar Nagari (gwyddor Hindi ac ieithoedd eraill). Cyn y 19g, Perseg ac Wrdw oedd ieithoedd llenyddol y Punjab, ond gyda thyfiant ymwybyddiaeth gymunedol y Siciaid daethpwyd i ddefnyddio'r iaith lafar fwyfwy fel cyfrwng llenyddol ac erbyn heddiw mae llenyddiaeth Bwnjabeg wedi hen ennill ei phlwyf.