Rachel Bromwich | |
---|---|
Ganwyd | 30 Gorffennaf 1915 Hove |
Bu farw | 15 Rhagfyr 2010 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd |
Cyflogwr |
Ysgolhaig yn arbenigo yn llenyddiaeth Gymraeg y Canol Oesoedd oedd Rachel Bromwich (30 Gorffennaf 1915 – 15 Rhagfyr 2010).[1] Bu'n ddarlithydd mewn Ieithoedd a Llenyddiaeth Geltaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gwaith ar Drioedd Ynys Prydain ac ar farddoniaeth Dafydd ap Gwilym. Dyfarnwyd gradd DLitt er anrhydedd iddi gan Brifysgol Cymru yn 1985.
Bu farw yn 95 oed.[2]