Mewn geometreg clasurol, radiws cylch neu sffêr yw unrhyw linell o ganol y siap i'w ymyl (neu ochr). Mewn defnydd mwy modern, mae hefyd yn golygu hyd y linell hon. Benthyciad yw'r gair o'r Lladin a golygai "belydryn o olau" neu "adenydd yr olwyn mewn cerbyd rhyfel", "sbocsen" ar lafar gwlad. Y lluosog yw radiysau. Y byrfodd a ddefnyddir amlaf ym mhob iaith yw r.[1][2]
Mae'r diamedr d ddwywaith hyd y radiws: [3]
Os nad oes gan wrthrych ganolbwynt, efallai y bydd y term yn cyfeirio at ei gylch-radiws (circumradius), h.y. radiws ei gylch amgylchol neu ei sffêr amgylchol (circumscribed sphere). Yn y naill achos neu'r llall, gall y radiws fod yn fwy na hanner y diamedr, a ddiffinnir fel arfer fel y pellter mwyaf rhwng unrhyw ddau bwynt o'r ffigwr. Diffinnir mewn-radiws (inradius) ffurf geometrig, fel arfer, fel radiws y cylch neu'r sffêr mwyaf sydd oddi fewn iddo. Radiws mewnol cylch, tiwb neu wrthrych gwag arall yw radiws ei geudod.
Mewn polygonau rheolaidd, mae'r radiws yn hafal i'w gylch-radiws.[4] Enw arall ar fewn-radiws polygon rheolaidd yw 'apothem'.
O fewn damcaniaeth graffiau, radiws graff yw lleiafswm y fertigau u o'r pellter mwyaf o u i unrhyw fertig ar y graff.[5]
Radiws cylch gyda pherimedr (cylchedd) C yw: