Heddwas o Sbaen yn taro sifiliaid ar ddiwrnod y Refferendwm | |
Math o gyfrwng | independence referendum |
---|---|
Dyddiad | 1 Hydref 2017 |
Rhan o | Catalan independence process, 2017–18 Spanish constitutional crisis |
Rhagflaenwyd gan | Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2014 |
Prif bwnc | mudiad Catalwnaidd dros annibyniaeth |
Gwefan | https://referendum.cat/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Baner Catalwnia | ||
Dyddiad | 2017 | |
---|---|---|
Lleoliad | Catalwnia | |
Gwefan | ||
ref1oct.eu |
Refferendwm ar ddyfodol Catalwnia, a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2017 oedd y Refferendwm ar Annibyniaeth Catalwnia 2017. Fe'i trefnwyd gan Lywodraeth Catalwnia (neu'r Generalitat de Catalunya). Ar hyn o bryd mae Sbaen yn ystyried y wlad yn un o'i 'Chymunedau Ymreolaethol'.[1] Cyhoeddodd Llywodraeth Catalonia eu bwriad o gynnal refferendwm ar 6 Medi 2017, a'r diwrnod wedyn, fe'i gwnaed yn anghyfreithiol gan Lys Cyfansoddiad Sbaen, gan y byddai refferendwm yn eu barn nhw yn groes i Gyfansoddiad y Wlad (sef y Constitución española de 1978). Yn dilyn y refferendwm, ar 27 Hydref 2017 cyhoeddwyd sefydlu Gweriniaeth Catalwnia (2017).
Fel rhan o'u hymgyrch Operación Anubis, ceisiodd heddlu Sbaen atal y broses ddemocrataidd o bleidleisio, gan anafu 844 o Gataloniaid.[2] Er hyn, pleidleisiodd 2.3 miliwn.[3] Cyhoeddodd Zeid Ra'ad Al, Uwchgomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Sbaen yn ymchwilio'n drylwyr i'r trais a achoswyd gan eu heddlu ar ddiwrnod y refferendwm.[4][5]
Y bwriad oedd cynnal refferendwm ddi-droi'n-ôl a fyddai'n cael ei wireddu, er y byddai hyn yn anghyfreithiol [6][7] yn llygad Llywodraeth Sbaen.
Unig gwestiwn y papur pleidleisio oedd: "Ydych chi'n dymuno gweld Catalwnia'n genedl annibynnol ar ffurf gweriniaeth?" gyda dau ddewis yn ateb: "Ydw" neu "Nac ydw". Pleidleisiodd 2,044,038 (92.01%) "Ydw" a 177,547 (7.99%) "Nac ydw", gyda 43.03% o bobl cymwys wedi bwrw eu pleidlais. Amcangyfrifodd y Llywodaeth fod 770,000 o bobl wedi methu pleidleisio gan fod heddlu Sbaen wedi eu hatal.[8][9]
Y diwrnod wedi'r cyhoeddiad, sef y 7fed o Fedi, cyhoeddodd Llys Cyfansoddiad Sbaen waharddiad ar gynnal refferendwm o'i fath ond mynegodd Llywodraeth Catalwnia nad oedd gorchymyn y llys yn ddilys yng Nghatalwnia ac aethant ati'n ddiymdroi i gasglu cefnogaeth i'r dymuniad o gael refferendwm gan 688 allan o 948 cyngor bwrdeistrefol.[10][11]
Mae Llywodraeth Sbaen yn gwrthwynebu'r 'hawl' i'r Catalwniaid reoli eu hunain ac i gynnal refferendwm[12] gan ddal nad yw Cyfansoddiad Sbaen, 1978 yn caniatáu i unrhyw ranbarth o Sbaen gynnal pleidlais ynghylch annibyniaeth.[13][14]
Barn Llywodraeth Catalwnia yw fod gan drigolion y wlad yr hawl i benderfynu drostynt eu hunain, a bod y refferendwm felly'n foesol gywir a theg. Ymateb Cyngor Ewrop oedd y dylai unrhyw refferendwm fod yn ddarostyngedig i'r cyfansoddiad ("in full compliance with the constitution").[15] Ychydig iawn o gefnogaeth gan wledydd Ewrop mae'r ymgyrch dros gynnal y refferendwm wedi'i gael hyd yma[15] gan y byddai, o bosib, yn agor y drws i wledydd eraill ddilyn eu hesiampl.