Math | cadwyn o fynyddoedd, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 3,289.48 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.8138°N 3.9884°W, 52.848063°N 4.013011°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Mae'r Rhinogydd (weithiau Rhinogau) yn gadwyn o fynyddoedd yn ardal Ardudwy, de Gwynedd, sy'n gorwedd i'r dwyrain o Harlech ac i'r gorllewin o'r ffordd rhwng Dolgellau a Thrawsfynydd.
Daw'r enw o enwau dau o'r mynyddoedd yn y gadwyn, Rhinog Fawr a Rhinog Fach. Y prif fynyddoedd yw:
Rhennir y gadwyn yn ddwy gan fwlch Drws Ardudwy, rhwng Rhinog Fawr a Rhinog Fach, a fu'n llwybr pwysig yn yr Oesoedd Canol. Ychydig i'r gogledd o hwn mae Bwlch Tyddiad (camarweiniol yw'r enw poblogaidd "Grisiau Rhufeinig/Roman Steps" ar y rhan o'r llwybr hwnnw sy'n arwain i'r bwlch hwn).