Math | cymuned, maestref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 6,698 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.0525°N 2.9964°W ![]() |
Cod SYG | W04000240 ![]() |
AS/au y DU | Andrew Ranger (Llafur) |
![]() | |
Cymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Rhos-ddu. Mae'n rhan o dref Wrecsam, ac yn sefyll i'r gogledd-orllewin o ganol y dref. Ceir yno ysgol gynradd a thafarn.
Ffurfiwyd plwyf Rhos-ddu ym 1886, o ran o blwyf Wrecsam. Daeth yn rhan o blwyf Wrecsam unwaith eto yn 1972. Adeiladwyd yr eglwys, a gysegrwyd i Sant Iago, rhwng 1874 a 1876, er na chafodd ei chysegru hyd 1886.