Cefncwmwd | |
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2467°N 4.3405°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Pentref bychan yng nghymuned Llangristiolus, Ynys Môn, yw Rhostrehwfa[1][2] ( ynganiad ). Fe'i lleolir tua 2 filltir i'r de-orllewin o dref Llangefni a milltir i'r gogledd o Langristiolus. Gorwedd Rhostrehwfa ar hyd lôn y B4422 o'i chyffordd â'r A55.
Mae'r enw yn hen ac yn tarddu o enw'r dreflan ganoloesol, Tre Hwfa. Roedd Hwfa yn bennaeth lleol yn yr Oesoedd Canol ac roedd nifer o deuluoedd mawr Môn yn ddisgynyddion iddo.