Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.4°N 4.5°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Pentrefan gwledig yng nghymuned Cylch y Garn ar Ynys Môn yw Rhydwyn ( ynganiad ) (weithiau Rhyd-wyn). Saif yng ngogledd yr ynys ym mhlwyf Llanrhuddlad, tua milltir i'r gorllewin o'r pentref hwnnw a milltir o fae Porth Swtan ar yr arfordir i'r gorllewin. Milltir a hanner i'r de ceir pentref Llanfaethlu. Mae 142.5 milltir (229.4 km) o Gaerdydd a 225.7 milltir (363.3 km) o Lundain.
Ystyr yr enw yw 'rhyd Gwyn' (enw personol). Gellir cyrraedd y pentref trwy troi oddi ar yr A5025 ger Llanrhuddlad neu Lanfaethlu.