Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Rio de Janeiro

Rio de Janeiro
MathBwrdeistref ym Mrasil, dinas fawr, mega-ddinas, former national capital Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,857,904, 6,476,631, 6,453,682, 6,320,446, 6,520,266, 811,443, 6,747,815, 6,775,561, 6,211,223 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 11 Mawrth 1565 Edit this on Wikidata
AnthemCidade Maravilhosa, Junte-se a Nós Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMarcelo Crivella Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iKyiv Edit this on Wikidata
NawddsantSant Sebastian Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRio de Janeiro Edit this on Wikidata
GwladBaner Brasil Brasil
Arwynebedd1,260.029215 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr31 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDuque de Caxias, Nilópolis, São João de Meriti, Itaguaí, Mesquita, Nova Iguaçu, Seropédica Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau22.9111°S 43.2056°W Edit this on Wikidata
Cod post20000-000 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholMunicipal Chamber of Rio de Janeiro Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Rio de Janeiro Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMarcelo Crivella Edit this on Wikidata
Map
Mynegai Datblygiad Dynol0.799 Edit this on Wikidata

Rio de Janeiro neu Rio[1] yw ail ddinas fwyaf Brasil, De America, y tu ôl São Paulo a Buenos Aires. Ystyr ei henw Portiwgaleg yw "Afon Ionawr". Fe'i lleolir ar arfordir ddwyreiniol canolbarth Brasil sy'n enwog am ei thraethau godidog a Mynydd y Dorth Siwgr. Hi hefyd yw'r chweched dinas fwyaf o ran poblogaeth yn yr America gydag oddeutu 5,857,904 (1 Awst 2000),[2] 6,476,631 (1 Gorffennaf 2015),[3] 6,453,682 (2014), 6,320,446 (2010), 6,520,266 (2017), 811,443 (1900), 6,747,815 (1 Gorffennaf 2020),[4] 6,775,561 (1 Gorffennaf 2021),[5] 6,211,223 (2022)[6] o bobl.

Roedd y ddinas yn brifddinas ar Brasil am bron i ddwy ganrif, o 1763 tan 1822 yn ystod cyfnod trefedigaethol Portiwgal, ac o 1822 tan 1960 pan oedd yn wlad annibynnol. Rio de Janeiro oedd cyn-brifddinas yr Ymerodraeth Portiwgeaidd hefyd (1808 - 1821). Caiff y ddinas ei hadnabod yn aml fel "Rio", ac mae ganddi'r ffugenw A Cidade Maravilhosa, neu "Y Ddinas Fendigedig". Gelwir trigolion y ddinas yn "gariocas". Cân swyddogol Rio yw "Cidade Maravilhosa", gan y cyfansoddwr André Filho.

Dynodwyd rhan o'r ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd, o'r enw "Rio de Janeiro: Tirweddau Carioca rhwng y Mynydd a'r Môr", gan UNESCO ar 1 Gorffennaf 2012 fel 'Tirwedd Ddiwylliannol'.[7] Mae Rio de Janeiro yn enwog am ei lleoliad naturiol, dathliadau ei charnifal, samba a cherddoriaeth arall, a'r traethau twristaidd, fel Copacabana ac Ipanema.[8] Yn ogystal â'r traethau, mae'r ddinas yn enwog am ei cherflun enfawr o Grist, sy'n cael ei adnabod fel Crist y Iachawdwr ('Cristo Redentor') sydd ar ben mynydd Corcovado. Mae'r ddinas hefyd yn nodedig am Fynydd y Dorth Siwgr (Pão de Açúcar) gyda'r cherbydau gwifren; y Sambódromo, stand gorymdaith parhaol a ddefnyddir yn ystod Carnifal a Stadiwm Maracanã, sy'n un o stadiymau pel-droed mwyaf y byd.

Golygfa dros Rio de Janeiro o Fynydd y Dorth Siwgr

Er gwaethaf ei phrydferthwch, ystyrir Rio fel un o ddinasoedd mwyaf treisgar y byd,[9] sydd wedi ysbrydoli ffilmiau fel Bus 174, City of God ac Elite Squad sydd oll wedi amlygu nifer o faterion cymdeithasol difrifol. Lleolir llawe o'r troseddau treisgar yn y favelas neu'r trefi shanti ond fe'u gwelir hefyd mewn cymdogaethau dosbarth canol ac uwch. Yn wahanol i nifer o ddinasoedd eraill, lleolir nifer o'r slymiau gyferbyn â rhai o ardaloedd mwyaf cefnog y ddinas.

Ceir y fforest fwyaf a'r ail fwyaf yn y byd yn y ddinas hefyd: Floresta da Tijuca, neu "Fforest Tijuca" a'r goedwig yn Parque Estadual da Pedra Branca, sydd bron yn gysylltiedig â'r parc arall. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Galeão - Antônio Carlos Jobim yn cysylltu Rio de Janeiro gyda nifer o ddinasoedd eraill Brasil ac yn cynnig nifer o hediadau rhyngwladol hefyd.

Rio de Janeiro oedd gwesteiwr Gemau Olympaidd yr Haf 2016 a Gemau Paralympaidd yr Haf 2012, gan wneud y ddinas y ddinas gyntaf yn Ne America i gynnal y digwyddiadau hyn, erioed, a'r trydydd tro i'r Gemau Olympaidd gael eu cynnal mewn dinas yn Hemisffer y De.[10] Cynhaliodd Stadiwm Maracanã rowndiau terfynol Cwpan y Byd Pêl-droed 1950 a 2014, Cwpan Cydffederasiynau FIFA 2013, a Gemau Pan Americanaidd XV.

  1. "Rio de Janeiro: travel guide". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mehefin 2015. Cyrchwyd 14 Mai 2015.
  2. "Population by municipality". Cyrchwyd 4 Mehefin 2016.
  3. "Population estimates for July 1st, 2015". Cyrchwyd 4 Mehefin 2016.
  4. https://www.ibge.gov.br/estatisticas/sociais/populacao/9103-estimativas-de-populacao.html.
  5. https://www.ibge.gov.br/estatisticas/sociais/populacao/9103-estimativas-de-populacao.html?edicao=31451.
  6. "Tabela 9605 - População residente, por cor ou raça, nos Censos Demográficos". Cyrchwyd 30 Tachwedd 2024.
  7. "Rio de Janeiro: Carioca Landscapes between the Mountain and the Sea". UNESCO. 1 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2012.
  8. "Rio de Janeiro's Beach Culture" Tayfun King, Fast Track, BBC World News (11 Medi 2009)
  9. Rio hit by deadly gang violence BBC NEWS. Americas. Adalwyd 26-04-2009
  10. "BBC Sport, Rio to stage 2016 Olympic Games". BBC News. 2 Hydref 2009. Cyrchwyd 4 Hydref 2009.

Previous Page Next Page