Robert Greene | |
---|---|
Ganwyd | 11 Gorffennaf 1558 Norwich |
Bedyddiwyd | 11 Gorffennaf 1558 |
Bu farw | 3 Medi 1592 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | dramodydd, llenor, bardd |
Adnabyddus am | Friar Bacon and Friar Bungay, Mamillia: A Mirror or Looking-glass for the Ladies of England, The Historie of Orlando Furioso |
Dramodydd a bardd o Sais oedd Robert Greene (Gorffennaf 1558 – 3 Medi 1592). Fe'i adnabyddir am ei gomedïau rhamant, ac roedd yn bamffledwr brwd, yn un o Ffraethebwyr y Prifysgolion yn Oes Elisabeth, ac yn hunangofiannydd o fri.
Ganwyd yn Norwich, Norfolk, ac astudiodd yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt. Symudodd i Lundain ac yno daeth i adnabod byd lladron a thwyllwyr, a oedd yn sail i sawl enghraifft o lên y dihiryn ganddo. Ymdrechodd Greene i ddilyn ffasiynau llenyddol er mwyn apelio at y cyhoedd, ac yng nghyfnod cynnar ei yrfa efelychodd y rhamant Euphues gan John Lyly.[1]
Yn niwedd y 1580au, cyfansoddodd Greene fugeilgerddi ar batrwn Arcadia gan Syr Philip Sidney. Yr enwocaf ohonynt ydy Pandosto (1588), a'r gwaith hwn oedd ffynhonnell William Shakespeare ar gyfer The Winter's Tale. Yn ei flynyddoedd olaf, ysgrifennodd Greene bamffledi didactig, yn eu plith Greenes never too late (1590). Mae'n debyg taw ei waith enwocaf ydy Greenes groats-worth of witte, bought with a million of repentance, a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth yn 1592. Yn y pamffled hwn mae'r cyfeiriad cynharaf at Shakespeare, a ddisgrifir gan yr awdur yn "upstart Crow, beautified with our feathers, that with his Tygers heart wrapt in a Players hide, supposes he is as well able to bumbast out a blanke verse as the best of you . . . in his owne conceit the onely Shake-scene in a countrie".
O ran ei ddramâu, y mwyaf poblogaidd ohonynt yw The Honorable Historie of frier Bacon, and frier Bongay (cyhoeddwyd 1594) a The Scottish Historie of James the fourth, slaine at Flodden (cyhoeddwyd 1598). Ymhlith ei weithiau diweddaraf mae A Notable Discovery of Coosnage (1591) ac A disputation betweene a hee conny-catcher and a shee conny-catcher (1592). Bu farw yn Llundain yn 34 oed.