Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Sacha Baron Cohen

Sacha Baron Cohen
FfugenwAli G. Edit this on Wikidata
Ganwyd13 Hydref 1971 Edit this on Wikidata
Hammersmith Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor ffilm, digrifwr, cynhyrchydd ffilm, actor llais, sgriptiwr, cynhyrchydd teledu, actor, actor teledu, awdur teledu, sgriptiwr ffilm, cyfarwyddwr teledu Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDa Ali G Show, Borat, The Dictator Edit this on Wikidata
TadGerry Baron Cohen Edit this on Wikidata
MamDaniella Naomi Cohen Edit this on Wikidata
PriodIsla Fisher Edit this on Wikidata
PerthnasauSimon Baron-Cohen, Simon Baron-Cohen Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Golden Globe am Actor Gorau - Ffilm Sioe-gerdd neu Gomedi, MTV Movie Award for Best Comedic Performance, Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Los Angeles ar gyfer yr Actor Gorau, San Francisco Film Critics Circle Award for Best Actor, Toronto Film Critics Association Award for Best Actor, Gwobr MTV Movie am y Gusan Orau, Golden Globes, British Academy Television Awards, MTV Comedic Genius Award Edit this on Wikidata

Actor, digrifwr ac ysgrifennwr Seisnig ydy Sacha Noam Baron Cohen (Hebraeg: סשה נועם ברון כהן, ganed 13 Hydref, 1971). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gymeriadau comedi Ali G (ffug berson ifanc o un o faestrefi Staines), Borat Sagdiyev (newyddiadurwr gwrth-semitaidd a rhywiaethol), a Brüno (newyddiadurwr ffasiwn hoyw camp dros ben llestri Awstriaidd). Graddiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt.[1]

Yn ei weithiau, cynhalia gyfweliadau â ffigurau parchus wrth chwarae rhan un o'i gymeriadau er mwyn gwneud sbort ohonynt. Yn amlach na pheidio, ni sylweddola'r bobl sy'n cael eu cyfweld nad yw Cohen o ddifri. Cydnabuwyd llawer o waith Sacha Baron Cohen gydag enwebiadau Emmy, enwebiad am Oscar am yr Addasiad Orau o Ffilm, Gwobr BAFTA, a Golden Globe am yr Actor Gorau am ei waith yn y ffilm Borat: Cultural Learnings of America for Make Benefit Glorious Nation of Kazakhstan.

Ar ôl i'r ffilm Borat gael ei rhyddhau, dywedodd Cohen y byddai'n ymddeol ar ôl Borat ac Ali G am fod y cyhoedd wedi dod yn rhy gyfarwydd gyda'i gymeriadau. Yn yr un modd, dywedodd yr un peth ar ôl i'r ffilm Brüno gael ei rhyddhau, gan ddatgan y byddai'r cymeriad yn ymddeol.

  1. Christ's College - Alumni - Sacha Baron Cohen Archifwyd 2011-10-13 yn y Peiriant Wayback. © 2008 Christ's College

Previous Page Next Page