![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Botwnnog ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.86°N 4.62°W ![]() |
Cod OS | SH239324 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
![]() | |
Pentref bychan yn Llŷn yw Sarn Mellteyrn( ynganiad ) (ffurf amgen: Sarn Meyllteyrn), a leolir ar y B4413 rhwng Pwllheli i'r dwyrain ac Aberdaron i'r gorllewin, ar ben gorllewinol penrhyn Llŷn. Y pentrefi cyfagos yw Bryncroes a Botwnnog i'r de a Tudweiliog i'r gogledd.
Rhed afon Soch drwy'r pentref ar ei ffordd i Abersoch. Mae'r pentref yn gorwedd mewn cwm bychan gyda Mynydd Rhiw i'r de, Mynydd Cefnamlwch i'r gogledd a bryn Carn Fadryn i'r gogledd-ddwyrain.
Mae tafarn y Tŷ Newydd yn y pentref yn llwyfan boblogaidd i gerddoriaeth Gymraeg. Ymysg y bandiau sy'n chwarae yno'n aml mae Cowbois Rhos Botwnnog, sydd â chysylltiad agos â'r ardal. Mae'n debyg mai Tŷ Newydd oedd man geni y label recordiau Sbrigyn Ymborth.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]