Teyrnas Sawdi Arabia (KSA) المملكة العربية السعودية (Arabeg) Ynganiad: al-Mamlaka al-ʿArabiyya as-Suʿūdiyya | |
Arwyddair | Nid oes Dainoni ond Duw |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, teyrnas, gwlad |
Enwyd ar ôl | Saud I |
Prifddinas | Riyadh |
Poblogaeth | 33,000,000 |
Sefydlwyd | 1727 (Emiradau Diriyah) |
Anthem | Llafargan Cenedl Sawdi |
Pennaeth llywodraeth | Salman, brenin Sawdi Arabia |
Cylchfa amser | UTC+03:00, Asia/Riyadh |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia, Gwladwriaethau Arabaidd Gwlff Persia |
Arwynebedd | 2,250,000 ±1 km² |
Gerllaw | Gwlff Persia, Y Môr Coch, Gwlff Aqaba |
Yn ffinio gyda | Gwlad Iorddonen, Coweit, Catar, Bahrain, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Oman, Iemen, Irac, Yr Aifft, Iran |
Cyfesurynnau | 23.71667°N 44.11667°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Council of Ministers of Saudi Arabia |
Corff deddfwriaethol | Prif Weinidog Sawdi Arabia |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Brenhinoedd Sawdi Arabia |
Pennaeth y wladwriaeth | Salman, brenin Sawdi Arabia |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Sawdi Arabia |
Pennaeth y Llywodraeth | Salman, brenin Sawdi Arabia |
Sefydlwydwyd gan | Founding Leaders of Saudi Arabia |
Crefydd/Enwad | Islam |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $868,586 million, $1,108,149 million |
Arian | Saudi riyal |
Canran y diwaith | 11 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 2.765 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.875 |
Gwlad fawr ar orynys Arabia yn ne-orllewin Asia yw Teyrnas Sawdi Arabia' neu Sawdi Arabia (hefyd: Saudi Arabia; Arabeg: المملكة العربية السعودية; sef Al Mamlaka al ʻArabiyya as Suʻūdiyya). Hi yw'r wlad Arabaidd fwyaf yng Ngorllewin Asia gydag oddeutu 2,150,000 km2 (830,000 mi sgw) a'r ail wlad Arabaidd fwyaf, yn dilyn Algeria. Y gwledydd cyfagos yw Irac a Ciwait i'r gogledd-ddwyrain, Gwlad Iorddonen i'r gogledd-orllewin, Oman, Qatar a'r Emiradau Arabaidd Unedig i'r dwyrain a Iemen i'r de-orllewin. Mae gan Sawdi arfordir ar lan Y Môr Coch i'r gorllewin a Gwlff Persia i'r dwyrain. Anialwch yw'r rhan fwyaf o ganolbarth y wlad. Riyadh yw'r brifddinas. Mae ei phoblogaeth oddeutu 28.7 million, gyda 8 miliwn o'r rheiny o'r tu allan i'r wlad.[1][2][3][4]
Cyn i Ibn Saud uno'r wlad yn 1932 roedd pedair ardal: Hejaz, Najd a rhannau o Ddwyrain Arabia (Al-Hasa) a De Arabia (ardal 'Asir).[5] Llwyddodd i wneud hyn drwy gyfres o ymosodiadau milwrol gan gychwyn yn 1902 pan gymerodd Riyadh drwy rym milwrol; Riyadh oedd hen ddinas ei hynafiaid - sef y teulu'r Saud. Brenhiniaeth absoliwt yw'r wlad ers hynny, wedi'i llywodraethu gydag Islamiaeth yn ganllaw gadarn a dylanwad y Wahhabi.[6] Gelwir Sawdi Arabia weithiau'n "Wlad y Ddau Fosg", sef Al-Masjid al-Haram (yn Mecca), a Al-Masjid an-Nabawi (ym Medina), y ddau le mwyaf cysegredig yn Islam.
Domineiddir y byd olew gan Sawdi Arabia, fel cynhyrchydd a gwerthwr olew ac yno mae'r ail ffynhonnell fwyaf o olew drwy'r byd.[4] Oherwydd yr arian a ddaw o'r diwydiant olew, ystyrir y wlad yn wlad gyfoethog iawn a'r economi'n 'incwm uchel'. Hon yw'r unig wlad Arabaidd sy'n aelod o'r grŵp G-20 a rhestrir hi'n 4ydd safle o ran gwariant y wlad ar arfau.[7][8] Mae'n aelod o Gyngor Gweithredol y Gwlff, Mudiad Cydweithio islamaidd ac OPEC.[9]
Fodd bynnag, mae'r wladwriaeth wedi denu beirniadaeth am amryw o resymau, gan gynnwys ei rôl yn Rhyfel Cartref Yemeni, nawdd honedig i derfysgaeth Islamaidd a'i record hawliau dynol gwael, sy'n cynnwys defnydd gormodol a rhagfarnllyd o'r gosb eithaf, methu mabwysiadu mesurau digonol yn erbyn masnachu pobl, gwahaniaethu yn erbyn lleiafrifoedd ac anffyddwyr crefyddol, a gwrthsemitiaeth, a'i ddehongliad caeth o gyfraith Shari'a.[10][11][12]
Mae Sawdi Arabia yn cael ei ystyried yn bŵer rhanbarthol a chanolig.[13][14] Economi Sawdi yw'r fwyaf yn y Dwyrain Canol a'r ddeunawfed fwyaf yn y byd.[15] Mae gan y wlad hefyd un o boblogaethau ieuengaf y byd, gyda thua 50% o'i phoblogaeth o 34.2 miliwn o dan 25 oed.[16] Yn ogystal â bod yn aelod o Gyngor Cydweithrediad y Gwlff, mae Saudi Arabia yn aelod gweithgar a sefydlol o'r Cenhedloedd Unedig, Sefydliad Cydweithrediad Islamaidd, Cynghrair Arabaidd, ac OPEC.