![]() | |
Enghraifft o: | iaith naturiol, macroiaith, iaith fyw, pluricentric language ![]() |
---|---|
Math | Western South Slavic ![]() |
Enw brodorol | srpskohrvatski jezik ![]() |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | sh ![]() |
cod ISO 639-3 | hbs ![]() |
Gwladwriaeth | Bosnia a Hertsegofina, Serbia, Croatia, Montenegro ![]() |
System ysgrifennu | Gaj's Latin alphabet, Serbian Cyrillic alphabet, Yr wyddor Gyrilig, yr wyddor Ladin ![]() |
![]() |
Iaith neu grŵp o ieithoedd De Slafonaidd yw Serbo-Croateg, sy'n cynnwys Croateg, Serbeg, Bosnieg a Montenegreg. Yn ddiweddar, defnyddir enwau gwahanol arni, gan gynnwys BCMS[2], sy'n cyfeirio'n glir at y Fosnieg a'r Fontenegreg yn ogystal.
Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel un iaith, ac mae llawer o ieithyddwyr yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Serbo-Croateg oedd iaith swyddogol Iwgoslafia. Fodd bynnag, gyda diflaniad Iwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Serbeg, Bosnieg a Chroateg fel ieithoedd ar wahân, er bod cywair safonol pob un yn seiliedig ar yr un dafodiaith yn union. Gellid disgrifio Serbeg, Bosnieg a Montenegreg fel amrywiaethau ieithyddol, sydd ag enw gwahanol ac wedi eu safoni ar wahân.