Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | endid anatomegol arbennig, anatomical collection |
Rhan o | anifail |
Yn cynnwys | asgwrn |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cysylltwaith o esgyrn y tu mewn i'r corff yw'r sgerbwd, a adnabyddir hefyd fel y system ysgerbydol. Mae ganddo dair swyddogaeth: yn gyntaf, mae'n gallu amddiffyn y corff: mae'r penglog, er enghraifft, yn amddiffyn yr ymennydd. Mae hefyd yn cynnal y corff: dyna sut yr ydym yn gallu sefyll i fyny yn syth, er enghraifft. Yn drydydd, ceir cyhyrau yn sownd wrth yr esgyrn a cheir cymalau yn ein hesgyrn sy'n golygu y gall y corff symud.
Mae'n gweithio ar y cyd gyda'r cyhyrau, er mwyn symud corff bod dynol neu anifail; mae'r system yn cynnwys yr esgyrn a'r sgerbwd, (sy'n cynnal ffram y corff), y cartilag a'r y gewynnau. Mae'r corff dynol yn cynnwys 206 asgwrn sy'n fframwaith gadarn i ddal gweddill yr organau. Er mwyn symud y sgerbwd mae'n rhaid cael cyhyrau, pâr ohonynt i weithio ar y cyd. Mae gan y sgerwd gartilag er mwyn ystwythder. Stribedi cryf o feinwe ydy'r ligament, sy'n dal yr esgyrn at ei gilydd a gewynnau'n dal y cyhyr yn sownd i'r asgwrn.
Mae fertebratau yn anifeiliaid a sgerbwd mewnol wedi'i ganoli o amgylch asgwrn cefn echelinol, ac mae eu sgerbydau fel arfer yn cynnwys esgyrn a chartilagau. Mae sgerbydau infertebratau (anifeiliaid di-asgwrn-cefn) yn amrywio: gan gynnwys sgerbwd cregyn caled (yr arthropodau a’r rhan fwyaf o folysgiaid), cregyn mewnol platiog (e.e. esgyrn ystifflogod (cuttlefish) mewn rhai seffalopodau) neu wiail (e.e. osiclau mewn echinodermau), ceudodau corff a gynhelir gan hydrostatig (y rhan fwyaf), a sbigylau (sbyngau). Mae cartilag yn feinwe gyswllt anhyblyg a geir yn systemau ysgerbydol fertebratau ac infertebratau.