Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Silwriaid

Llwythi Cymru tua 48 OC. Nid oes sicrwydd am yr union ffiniau.

Roedd y Silwriaid (Lladin: Silures) yn llwyth Brythonaidd oedd yn byw yn ne-ddwyrain Cymru pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid i'r ardal. Yn fras roeddynt yn byw yn yr hyn ddaeth yn nes ymlaen ym Mrycheiniog, Gwent a Morgannwg. Roeddynt yn ffinio a'r Ordoficiaid yn y gogledd a'r Demetae yn y gorllewin. Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig Tacitus roeddynt yn bobl bryd-tywyll gyda gwallt cyrliog. Ymhlith y bryngaerau niferus ar eu tir y mae bryngaer Goed Llanmelin yn sefyll allan fel canolfan bwysig.

Yr oeddynt yn nodedig am ymladd yn ffyrnig yn erbyn y Rhufeiniaid. Tua 48 OC ffodd Caradog atynt wedi i'w lwyth ei hun, y Catuvellauni, gael eu gorchfygu gan y Rhufeiniaid. Arweiniodd ef eu rhyfelwyr yn erbyn Publius Ostorius Scapula pan ymosododd Ostorius arnynt hwy ac ar yr Ordoficiaid.

Gorchfygwyd Caradog yn 51 yn nhiriogaeth yr Ordoficiaid, ond parhaodd y Silwriaid i ymladd yn erbyn y Rhufeiniaid. Dywedir i Ostorius ddatgan fod y llwyth mor beryglus nes byddai raid eu lladd i gyd neu eu halltudio. Ymosododd y Silwriaid ar gorff o filwyr Rhufeinig oedd yn adeiladu caerau yn eu tiriogaeth, a dim ond trwy ymdrech fawr y gallodd y Rhufeiniaid eu hachub. Dywedir i'r Silwriaid gymryd Rhufeinwyr yn garcharorion a'u rhannu ymhlith llwythau cyfagos i greu cynghrair yn erbyn Rhufain.

Bu farw Ostorius yn annisgwyl yn 52 heb fod wedi concro'r Silwriaid. Wedi ei farwolaeth ef gallasant orchfygu'r Ail Leng, oedd yn cael ei harwain gan Gaius Manlius Valens, cyn i'r llywodraethwr newydd, Aulus Didius Gallus, gyrraedd. Yn 57, dechreuodd y llywodraethwr Quintus Veranius Nepos ymgyrch yn eu herbyn, ond bu farw yn fuan wedyn. Dim ond ugain mlynedd yn ddiweddarach, dan Sextus Julius Frontinus, y gorchfygwyd y llwyth yn derfynol.

Prifddinas y Silwriaid yn y cyfnod Rhufeinig oedd Venta Silurum (Caerwent heddiw). Wedi'r cyfnod Rhufeinig daeth tiriogaeth y Silwriaid yn deyrnasoedd Gwent, Brycheiniog, Gwynllŵg a Morgannwg. Enwyd y cyfnod Silwraidd mewn daeareg ar ôl y llwyth yma, gan i greigiau o'r cyfnod yma gael eu disgrifio gyntaf yn nhiriogaeth y llwyth.


Sbiral triphlyg Llwythau Celtaidd Cymru Llwythau Celtaidd

Deceangli | Demetae | Gangani | Ordoficiaid | Silwriaid |

Gwelwch hefyd: Y Celtiaid


Previous Page Next Page






ሲሉራውያን AM سيليورس Arabic سيليورس ARZ Силури Bulgarian Silured BR Silurs Catalan Silurové Czech Silurer German Silures English Siluroj EO

Responsive image

Responsive image