Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Siroedd hynafol Cymru

Mae Siroedd Cymru traddodiadol Cymru yn cynnwys 13 o siroedd a sefydlwyd dan y drefn Seisnig yng Nghymru rhwng 1284 a 1536. Defnyddiwyd y siroedd traddodiadol ar gyfer llywodraeth leol rhwng 1889 a 1974, ond nid oedd ffiniau'r siroedd gweinyddol rhain yn union yr un fath â'r siroedd eu hunain gan fod gan Gaerdydd ac Abertawe eu siroedd gweinyddol eu hunain. Crëwyd 8 sir gadwedig ar gyfer llywodraeth leol ym 1974; ym 1996, crëwyd 22 o awdurdodau unedol ar gyfer llywodraeth leol. Mae enwau rhai o'r siroedd traddodiadol yn cael eu defnyddio ar gyfer awdurdodau unedol (gweler Siroedd a Dinasoedd Cymru), er bod ffiniau awdurdodau unedol yn gallu bod yn wahanol iawn i'r siroedd traddodiadol y maent wedi eu henwi ar eu hôl.


Previous Page Next Page