Math | gwladwriaeth a gydnabyddir gan rai gwledydd, gweriniaeth |
---|---|
Prifddinas | Hargeisa |
Poblogaeth | 4,171,898 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Samo ku waar |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Somalieg, Arabeg, Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Affrica |
Gwlad | [[Delwedd:Nodyn:Alias baner gwlad Somaliland|22x20px|Baner Nodyn:Alias gwlad Somaliland]] [[Nodyn:Alias gwlad Somaliland]] |
Arwynebedd | 177,000 km² |
Yn ffinio gyda | Somalia, Ethiopia, Jibwti |
Cyfesurynnau | 9.8°N 46.2°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Somaliland |
Corff deddfwriaethol | Parliament of Somaliland |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | President of Somaliland |
Pennaeth y wladwriaeth | Muse Bihi Abdi |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | President of Somaliland |
Arian | Somaliland shilling, ZAAD |
Gweriniaeth yng ngogledd-ddwyrain Affrica yw Somaliland. Cyhoeddodd ei hannibyniaeth ar Somalia ym 1991 ond ni chydnabyddir Somaliland gan unrhyw wlad arall. Mae'n hawlio tiriogaeth gyfan Somaliland Brydeinig, protectoriaeth y Deyrnas Unedig tan 1960.
Mae Somaliland yn ffinio ag Ethiopia i'r de a gorllewin, Jibwti i'r gogledd-orllewin, Gwlff Aden i'r gogledd a Puntland, rhanbarth hunan-lywodraethol Somalia, i'r dwyrain. Hargeisa yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf.
Mae'r mwyafrif o'r tua 10,000 o Somaliaid yng Nghymru (8,000 ohonynt yn byw yng Nghaerdydd) yn tarddu o Somaliland ac mae cysylltiadau rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a llywodraeth Somaliland.