Darn bychan o bapur printiedig, gludog fel rheol, a roddir ar lythyr neu baced i ddangos fod yr anfonydd wedi talu am ei bostio yw stamp. Fe'i cyhoeddir gan wasanaethau post gwladol fel rheol, fel modd i ddangos fod rywun wedi talu am anfon amlen, cerdyn neu eitem arall gyda'r post. Gelwir yr astudiaeth o stampiau yn ffilateliaeth.