Math | siroedd hanesyddol Lloegr |
---|---|
Prifddinas | Efrog |
Daearyddiaeth | |
Sir | Lloegr, Teyrnas Lloegr |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 11,903 km² |
Yn ffinio gyda | Swydd Durham, Westmorland, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Gaer, Swydd Derby, Swydd Nottingham, Swydd Lincoln |
Cyfesurynnau | 53.9583°N 1.0833°W |
Allwedd: |
Sir hanesyddol yng ngogledd Lloegr oedd Swydd Efrog (Saesneg: Yorkshire) a'r fwyaf yng ngwledydd Prydain o ran ei harwynebedd. Caer Efrog (York) oedd ei phrifddinas. Cadwyd yr enw "Swydd Efrog" wedi i'r sir ddiflannu fel endid gweinyddol ym 1974, ac edrychir arno, bellach, fel enw rhanbarth yn ogystal â sir draddodiadol, hanesyddol.[1] Yn adeg Rhyfel y Rhosynnau gelwid ei thrigolion yn "Iorciaid".
Cyn 1974 rhannwyd Swydd Efrog yn dair sir seremonïol (neu "Riding"); daw'r gair Riding o'r darddiad Llychlynaidd Threthingr, a olygai "tair rhan":
Yn dilyn yr ad-drefnu ychwanegwyd De Swydd Efrog a newidiwyd y ffiniau.
Oherwydd ei maint, ceir ynddi lawer o faesydd gwyrdd, a ystyrir ymhlith y gwyrddaf yn Lloegr, yn enwedig ardaloedd fel yr Yorkshire Dales a Rhostiroedd Gogleddd Swydd Efrog.[2]
Symbol Swydd Efrog yw rhosyn gwyn, a chynrychiolir Efrog (y rhabarth) gan faner ac arni rosyn gwyn ar gefndir glas, yn symbol o'r Iorciaid,[3] a dderbyniwyd gan Sefydliad Baner Prydain ar 29 Gorffennaf 2008.[4] Cynhelir 'Diwrnog Efrog' (Yorkshire Day) ar y 1af o Awst yn flynyddol, pan ddethlir hanes, tafodiaeth a diwylliant unigryw yr ardal.[5]