Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Symffoni

Darn cerddoriaeth glasurol Gorllewinol, mewn pedwar symudiad neu ran fel rheol, yw symffoni. Datblygodd y symffoni glasurol o ganol y 18g ymlaen yn nwylo cyfansoddwyr fel Joseph Haydn a Mozart. Roedd y symudiad cyntaf yn gyflym ac ar ffurf sonata, yr ail yn araf a mynegol, y trydydd yn miniwet a trio, a'r pedwerydd yn gyflym.

Ymestynodd Beethoven ystod emosiynol a thechnegol y symffoni gan ychwanegu corws a chantorion unigol yn ei Nawfed Symffoni. Gyda'r Mudiad Rhamantaidd yn y 19g a chyfansoddwyr fel Schubert, Schumann, Johannes Brahms, Mendelssohn, Dvořák a Tchaikovsky, tyfodd y symffoni i fod yn un o ffurfiau blaenaf a mwyaf poblogaidd y traddodiad Clasurol.

Ar ddiwedd y ganrif honno a dechrau'r ugeinfed, daeth cyfansoddwyr fel Anton Bruckner a Gustav Mahler â datblygiadau newydd ym maint a chynnwys y symffoni. Arbrofai Mahler yn arbennig gyda symffonïau marweddog, thematig, i'w perfformio gan gerddorfeydd mawr; mil o leisiau yn achos ei 8fed Symffoni, er enghraifft.

Ond gyda chyfansoddwyr fel Sibelius troes y symffoni'n fwy cryno, mwy pur yn ei helfennau a llai cyfyng ei strwythr: symffoni un symudiad yw 7fed Symffoni Sibelius er enghraifft.

Yn ail hanner yr 20g cafwyd amrywiaeth mawr ym myd y symffoni, o gerddoriaeth dra-fodern Dmitri Shostakovich i arddulliau arbrofol, minimalaidd y to newydd.

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Previous Page Next Page






Simfonie AF Sinfonie ALS Sinfonía AN سمفونية Arabic سيمفونيه ARZ Sinfonía AST Simfoniya AZ سمفونی AZB Симфония BA Simpuonėjė BAT-SMG

Responsive image

Responsive image