![]() Mae'r system weledol a'r system somatosynhwyraidd yn weithredol hyd yn oed yn ystod cyflwr gorffwys fMRI | |
Enghraifft o: | dosbarth o endidau anatomegol ![]() |
---|---|
Math | system nerfol, endid anatomegol arbennig ![]() |
Rhan o | system nerfol, set o israniadau y system organau, clwstwr anatomegol heterogenaidd ![]() |
Yn cynnwys | organ synhwyro ![]() |
![]() |
Mae'r system nerfol synhwyraidd yn rhan o'r system nerfol sy'n gyfrifol am brosesu gwybodaeth am y synhwyrau mewn anifeiliaid. Ei waith ydyw hel a phrosesu gwybodaeth drwy gyfrwng y "pum llawenydd" chwedl y bardd, neu'r pum synnwyr: gweld (y llygaid), clywed (y clustiau), teimlo (y croen), blasu (y tafod) ac arogleuo (y trwyn). Mewn gwyddoniaeth, rydym yn galw pob un o'r rhain yn dderbynnydd. Mae'r system synhwyraidd yn cynnwys niwronau synhwyraidd (gan gynnwys y celloedd derbyn synhwyraidd), llwybrau niwral, a rhannau o'r ymennydd sy'n ymwneud â chanfyddiad synhwyraidd a chasglu synhwyrau sy'n darparu gwybodaeth i'r organeb am gyflwr mewnol y corff. Mae organau synhwyro'n drawsddygyddion sy'n trosi data o'r byd corfforol allanol i fyd y meddwl lle mae pobl yn dehongli'r wybodaeth, gan ganfod y byd o'u cwmpas.[1]
"Maes y derbynnydd" (receptive field) yw'r rhan honno o'r byd mae'r organ derbyn (receptor organ) a'r celloedd derbyn yn medru ymateb iddynt. Er enghraifft, mae'r rhan honno o'r byd mae'r llygad yn medru ei weld yn cael ei alw'n "faes y derbynnydd" neu'n "dderbynfaes", sef golau'n taro rodenni a chonau o fewn y llygad.[2]
Y maes derbyn (receptive field) yw'r rhan o'r corff neu'r amgylchedd y mae organ derbyn a chelloedd derbyn yn ymateb iddo. Er enghraifft, y rhan o'r byd y gall llygad ei gweld, yw ei faes derbyn; y golau y gall pob ffon-gell (rods) neu gon ei weld, yw ei faes derbyn.[3] Mae meysydd derbyn wedi'u nodi ar gyfer y system weledol, y system glywedol a'r system somatosynhwyraidd. .