Rheng tacson yw teulu (lluosog: teuluoedd) a ddefnyddir i ddosbarthu'n wyddonol organebau byw (anifeiliaid, planhigion ayb). Mae'r gair hefyd yn cael ei ddefnyddio o fewn bywydeg ar gyfer ffosiliau ac organebau a ddifodwyd. Mae'n cael ei leoli yn uwch nag urdd ac oddi tan genws. Ceir hefyd 'is-deulu'.
Mewn iaith bob dydd, gall 'teulu' gyfeirio at un o'i haelodau e.e. mae cnau Ffrengig a chyll Ffrengig (hicori) yn cael eu galw'n 'deulu'r cnau Ffrengig', er eu bod, ill dau'n perthyn yn fanwl gywir, yn wyddonol gywir, i deulu'r Juglandaceae.
Tacsonomegwyr sy'n dyfarnu beth sydd a beth nad yw'n cael ei ddiffinio fel teulu, o fewn bywydeg. Ni cheir rheolau haearnaidd ynghylch hyn, nag ychwaith ar gyfer unrhyw rheng arall o fewn y tacsa. Weithiau, ni cheir cosensws y naill ffordd na'r llall, o fewn y byd gwyddonol. Golyga hyn fod yr hyn sy'n cael ei ddiffinio'n deulu yn newid yn eithaf aml, yn enwedig ers i ymchwil DNA ddod yn fwyfwy poblogaidd..[1]