![]() Clawr yr argraffiad cyntaf o nofel Sylvia Plath ("Victoria Lucas") "The Bell Jar" | |
Enghraifft o: | gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | Sylvia Plath ![]() |
Cyhoeddwr | Heinemann |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 14 Ionawr 1963 ![]() |
Tudalennau | 288 ![]() |
Genre | Rhannol-hunangofiannol |
Prif bwnc | ffeministiaeth, seiciatreg, Unol Daleithiau America, Dinas Efrog Newydd, hunanladdiad, anhwylder deubegwn, Iselder ysbryd, autofiction ![]() |
Lleoliad y gwaith | Lithwania, Boston ![]() |
Unig nofel y llenor Americanaidd Sylvia Plath ydy The Bell Jar. Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol o dan y ffugenw "Victoria Lucas" yn 1963. Nofel rhannol-hunangofiannol ydyw, gydag enwau pobl a llefydd wedi'u newid. Yn aml, ystyrir y gwaith yn roman à clef, gyda dirywiad y prif gymeriad oherwydd salwch meddyliol yn adlewyrchu profiadau personol Plath ei hun. Cymerodd Plath ei bywyd ei hun fis ar ôl i'r nofel gael ei chyhoeddi yn y Deyrnas Unedig. Cyhoeddwyd y nofel o dan enw Plath am y tro cyntaf ym 1967 ac ni chafodd ei chyhoeddi yn yr Unol Daleithiau tan 1971, o ganlyniad i ddymuniad mam Plath a'i gŵr Ted Hughes.[1] Bellach mae'r nofel wedi ei chyhoeddi mewn bron i ddeuddeg iaith gwahanol.[2]