Dyluniadau cloriau Tolkien ar gyfer y tair cyfrol | |
Awdur | J. R. R. Tolkien |
---|---|
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Math |
Ffantasi arwrol, Nofel antur |
Cyhoeddwr | Geo. Allen & Unwin |
Dyddiad cyhoeddi | 1954 a 1955 |
Rhagflaenwyd gan | The Hobbit |
Nofel ffantasi arwrol a ysgrifennwyd gan yr academydd Seisnig J. R. R. Tolkien yw The Lord of the Rings ("Arglwydd y Modrwyau"). Dechreuodd y stori fel dilyniant i lyfr ffantasi blaenorol Tolkien, Yr Hobyd (The Hobbit yn Saesneg), ond datblygodd i fod yn stori llawer mwy. Ysgrifennwyd y nofel fesul cam rhwng 1937 a 1949, a llawer ohoni yn cael ei greu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Er i Tolkien fwriadu cynhyrchu gwaith un gyfrol, cyhoeddwyd y llyfr yn wreiddiol mewn tair cyfrol ym 1954 a 1955, ac yn y ffurf tair cyfrol hon yr adwaenir yn boblogaidd. Ers hynny, cafodd y nofel ei hailargraffu nifer o weithiau, a'i chyfieithu i o leiaf 38 o ieithoedd, gan ddod yn un o weithiau llenyddiaeth fwyaf poblogaidd yr 20g. Hyd yn hyn, er hynny, ni chyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg.