Dinas (polis) hynafol yn Boeotia yng Ngroeg yr Henfyd oedd Thespiae (Groeg: Θεσπιαί, Thespiaí). Safai ar dir esmwyth ger y mynyddoedd isel sy'n rhedeg tua'r dwyrain wrth droed Mynydd Helicon i Thebes, ger y Thespies modern.