Thomas Carew | |
---|---|
Ganwyd | 1594 Llundain |
Bu farw | 22 Mawrth 1640 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Tad | Matthew Carew |
Bardd a llyswr o Loegr] oedd Thomas Carew (1595 – 22 Mawrth 1640) sy'n nodedig fel un o'r Cafaliriaid a flodeuai ym marddoniaeth Saesneg Lloegr yn hanner cyntaf yr 17g.
Ganwyd yn West Wickham, Caint, a chafodd ei addysg yng Ngholeg Merton, Rhydychen ac yn y Deml Ganol, un o Ysbytai'r Frawdlys. Aeth i'r cyfandir i weithio'n ysgrifennydd mewn llysgenadaethau Lloegr yn Fenis, yr Hâg, a Pharis. Dychwelodd i Loegr yn 1630 i fod yn was at ford y Brenin Siarl I. Roedd yn gyfaill i Ben Jonson a John Donne, a gwelir dylanwad y ddau lenor hwnnw ar farddoniaeth Carew.[1]
Fe'i ystyrir yn y cyntaf o'r beirdd Cafaliraidd, er iddo farw yn Llundain yn 1640, cyn i Ryfeloedd Cartref Lloegr rhwng y Brenhinwyr a'r Seneddwyr gychwyn o ddifrif. Yn ogystal â'i farddoniaeth serch llys sy'n nodweddiadol o'r traddodiad Cafaliraidd, gwelir dylanwad y Metaffisegwyr, yn bennaf Donne, yn ei waith a hefyd Eidalwyr megis Giambattista Marino. Ei gwaith hiraf ydy'r gerdd erotig "Rapture". Ysgrifennodd hefyd fasc o'r enw Coelum Britannicum a berfformiwyd yn 1634, gyda cherddoriaeth gan Henry Lawes.[1]