Thomas Charles | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 14 Hydref 1755 ![]() Sir Gaerfyrddin ![]() |
Bu farw | 5 Hydref 1814 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | clerig ![]() |
Tad | Rees Charles ![]() |
Mam | Jael Bowen ![]() |
Priod | Sarah Charles ![]() |
Plant | Thomas Rice Charles ![]() |
Clerigwr Methodistaidd, addysgwr a diwinydd o Gymru oedd Thomas Charles o'r Bala (14 Hydref 1755 – 5 Hydref 1814), a aned yn Llanfihangel Abercywyn, Sir Gaerfyrddin.
Roedd Thomas Charles o'r Bala yn frawd i David Charles, yr emynydd. Fe'i haddysgwyd yn Llanddowror, Sir Gaerfyrddin, Caerfyrddin, a Rhydychen. Ar ôl cyfnod yn offeiriad Anglicanaidd yng Ngwlad yr Haf priododd Sally Jones o'r Bala a symudodd i fyw yn y dref honno yn 1783. Yn 1784 ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd a threuliodd weddill ei oes yn gweinidogaethu yn eu plith.