Thomas Gee | |
---|---|
Ganwyd | 24 Ionawr 1815 ![]() Dinbych ![]() |
Bu farw | 28 Medi 1898 ![]() Dinbych ![]() |
Man preswyl | Tŷ Thomas Gee ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, newyddiadurwr, gwleidydd, argraffydd ![]() |
Cyflogwr | |
Tad | Thomas Gee ![]() |
Plant | Sarah Matthews ![]() |
Cyhoeddwr, perchennog newyddiaduron a golygydd o Gymru oedd Thomas Gee (24 Ionawr 1815 – 28 Medi 1898), ganwyd yn Ninbych. Datblygodd Wasg Gee i fod yn un o'r gweisg pwysicaf yn hanes Cymru. Roedd Gwasg Gee yn ddylanwadol iawn am bron i ddwy ganrif, ers ei sefydlu yn nhref Rhuthun mewn man a elwir heddiw yn 'Siop Gwen', ar draws y ffordd i Westy'r Wynnstay a hen swyddfa 'Cyfrifiaduron Sycharth'). Symudwyd y wasg i Ddinbych, ac yno y bu Gee farw yn ei gartref 'Bronant', Stryd y Dyffryn, yn 1898.
Ymhlith y clasuron a ddaeth o'r wasg yr oedd deg cyfrol o'r Gwyddoniadur Cymreig (1854-1878) a gostiodd tuag £20,000 i'w gyhoeddi a'r Faner, prif bapur newydd Cymraeg Cymru am dros gant a hanner o flynyddoedd.