Prifddinas Armenia yn y cyfnod cynnar oedd Tigranocerta (Armeneg: Տիգրանակերտ, Tigranakert). Saif yn Nhwrci heddiw, gerllaw Silvan, i'r dwyrain o Diyarbakır.
Sefydlwyd y ddinas gan Tigranes II, brenin Armenia (Tigranes Fawr) yn 1 CC, er mwyn cael prifddinas newydd oedd yn fwy canolog yn ei deyrnas. Gorfododd Tigranes nifer fawr o bobl i adael eu cartrefi i boblogi ei ddinas newydd.
Bu llawer o ymladd o amgylch Tigranocerta, er enghraifft Brwydr Tigranocerta yn 69 CC pan orchfygodd byddin Rufeinig dan Lucius Lucullus fyddin Tigranes ac yna anrheithio'r ddinas. Yn 59 OC cipiwyd y ddinas gan y cadfridog Rhufeinig Gnaeus Domitius Corbulo.