Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Khyber Pakhtunkhwa |
Gwlad | Pacistan |
Uwch y môr | 7,708 metr |
Cyfesurynnau | 36.2458°N 71.8439°E |
Manylion | |
Amlygrwydd | 3,908 metr |
Rhiant gopa | K2 |
Cadwyn fynydd | Hindu Kush |
Mynydd yng ngogledd Pacistan yw Tirich Mir (weithiau Terich Mir neu Terichmir). Ef yw copa uchaf yr Hindu Kush, 7,690 medr o uchder. Mae'n gorwedd i'r gogledd o dref Chitral yn yr ardal o'r un enw, sy'n rhan o dalaith Khyber Pakhtunkhwa, ger y ffin ag Affganistan.
Gellid ei ystyried fel y copa uchaf sy'n ddiamheuaeth o fewn Pacistan. Ceir nifer o gopaon uwch yn Gilgit-Baltistan, y rhan o Pacistan sy'n gorwedd i'r dwyrain o Chitral, ond mae dadl am berchenogaeth yr ardal yma, gydag India hefyd yn ei hawlio. Dringwyd y mynydd am y tro cyntaf yn 1950 gan ddringwyr o Norwy.